Mark 12

Stori'r tenantiaid

(Mathew 21:33-46; Luc 20:9-19)

1Roedd Iesu'n defnyddio straeon i ddarlunio beth roedd e eisiau'i ddweud, ac meddai wrthyn nhw: “Roedd rhyw ddyn wedi plannu gwinllan. Cododd ffens o'i chwmpas, cloddio lle i wasgu'r sudd o'r grawnwin ac adeiladu tŵr i'w gwylio. Yna gosododd y winllan ar rent i rhyw ffermwyr cyn mynd i ffwrdd ar daith bell. 2Pan oedd hi'n amser casglu'r grawnwin anfonodd un o'i weision i nôl ei siâr o'r ffrwyth gan y tenantiaid. 3Ond dyma'r tenantiaid yn gafael yn y gwas, ei guro a'i anfon i ffwrdd heb ddim. 4Felly dyma'r dyn yn anfon gwas arall; dyma nhw'n cam-drin hwnnw a'i anafu ar ei ben. 5Pan anfonodd was arall eto, cafodd hwnnw ei ladd. Digwyddodd yr un peth i lawer o weision eraill – cafodd rhai eu curo ac eraill eu lladd.

6“Dim ond un oedd ar ôl y gallai ei anfon, a'i fab oedd hwnnw, ac roedd yn ei garu'n fawr. Yn y diwedd dyma fe'n ei anfon, gan feddwl, ‘Byddan nhw'n parchu fy mab i.’

7“Ond dyma'r tenantiaid yn dweud wrth ei gilydd, ‘Hwn sy'n mynd i etifeddu'r winllan. Os lladdwn ni hwn cawn ni'r winllan i ni'n hunain.’ 8Felly dyma nhw'n gafael ynddo a'i ladd a thaflu ei gorff allan o'r winllan.

9“Beth fydd y dyn biau'r winllan yn ei wneud? Dweda i wrthoch chi beth! – bydd yn dod ac yn lladd y tenantiaid a rhoi'r winllan i rai eraill. 10Ydych chi ddim wedi darllen hyn yn yr ysgrifau sanctaidd:

‘Mae'r garreg wrthododd yr adeiladwyr
wedi cael ei gwneud yn garreg sylfaen;
11yr Arglwydd wnaeth hyn,
ac mae'r peth yn rhyfeddol yn ein golwg’? a

12Roedden nhw eisiau ei arestio, am eu bod yn gwybod yn iawn ei fod e'n sôn amdanyn nhw yn y stori. Ond roedd ofn y dyrfa arnyn nhw; felly roedd rhaid iddyn nhw adael llonydd iddo a mynd i ffwrdd.

Talu trethi i Cesar

(Mathew 22:15-22; Luc 20:20-26)

13Wedyn dyma'r arweinwyr Iddewig yn anfon rhai o'r Phariseaid a rhai o gefnogwyr Herod gyda'i gilydd at Iesu. Roedden nhw eisiau ei gael i ddweud rhywbeth fyddai'n ei gael i drwbwl. 14Dyma nhw'n mynd ato a dweud, “Athro, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n onest. Dwyt ti ddim yn un i gael dy ddylanwadu gan bobl eraill, dim ots pwy ydyn nhw. Rwyt ti'n dysgu ffordd Duw, ac yn glynu wrth yr hyn sy'n wir. Felly dywed wrthon ni – Ydy'n iawn i ni dalu trethi i lywodraeth Rhufain? 15Ddylen ni eu talu nhw neu ddim?” Ond roedd Iesu'n gweld eu twyll yn iawn. “Pam dych chi'n ceisio nal i?” meddai wrthyn nhw. “Dewch â darn arian i mi.” 16Dyma nhw'n rhoi un iddo, a dyma Iesu'n gofyn iddyn nhw, “Llun pwy ydy hwn? Am bwy mae'r arysgrif yma'n sôn?”

“Cesar,” medden nhw.

17Felly meddai Iesu, “Rhowch beth sydd biau Cesar i Cesar, a'r hyn biau Duw i Dduw.”

Roedden nhw wedi eu syfrdanu'n llwyr ganddo.

Priodas a'r Atgyfodiad

(Mathew 22:23-33; Luc 20:27-40)

18Wedyn dyma rai o'r Sadwceaid yn dod i ofyn cwestiwn iddo. (Dyma'r arweinwyr Iddewig sy'n dweud fod pobl ddim yn mynd i ddod yn ôl yn fyw ar ôl marw.) 19“Athro,” medden nhw, “rhoddodd Moses y rheol yma i ni: ‘Os ydy dyn yn marw a gadael ei wraig heb blentyn, rhaid i frawd y dyn hwnnw briodi'r weddw a chael plant yn ei le.’ b 20Nawr, roedd saith brawd. Priododd yr hynaf, a buodd farw heb adael plant. 21Dyma'r ail frawd yn priodi'r weddw, ond buodd yntau farw heb gael plentyn. Digwyddodd yr un peth gyda'r trydydd. 22I ddweud y gwir, er iddyn nhw i gyd briodi'r wraig wnaeth yr un o'r saith adael plentyn ar ei ôl. Yn y diwedd dyma'r wraig yn marw hefyd. 23Dyma'n cwestiwn ni: Pan fydd yr atgyfodiad yn digwydd, gwraig pwy fydd hi? Roedd hi wedi bod yn wraig i'r saith ohonyn nhw!”

24Atebodd Iesu, “Dych chi'n deall dim! Dych chi ddim wedi deall yr ysgrifau sanctaidd a dych chi'n gwybod dim byd am allu Duw. 25Fydd pobl ddim yn priodi pan fydd y meirw'n dod yn ôl yn fyw; byddan nhw yr un fath â'r angylion yn y nefoedd. 26A bydd y meirw yn dod yn ôl yn fyw! – ydych chi ddim wedi darllen beth ysgrifennodd Moses? Yn yr hanes am y berth yn llosgi, dwedodd Duw wrtho, ‘Fi ydy Duw Abraham, Duw Isaac, a Duw Jacob’. c 27Dim Duw pobl wedi marw ydy Duw, ond Duw'r rhai sy'n fyw! Dych chi wedi camddeall yn llwyr!”

Y Gorchymyn mawr

(Mathew 22:34-40; Luc 10:25-28)

28Roedd un o'r arbenigwyr yn y Gyfraith yno'n gwrando arnyn nhw'n dadlau. Pan welodd fod Iesu wedi rhoi ateb da iddyn nhw, gofynnodd yntau gwestiwn iddo. “O'r holl orchmynion i gyd, pa un ydy'r pwysica?” gofynnodd.

29Atebodd Iesu, “Y gorchymyn pwysica ydy hwn: ‘Gwrando Israel! Yr Arglwydd ein Duw ydy'r unig Arglwydd. 30Rwyt i garu'r Arglwydd dy Dduw â'th holl galon, ac â'th holl enaid, â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’ d 31A'r ail ydy: ‘Rwyt i garu dy gymydog fel rwyt ti'n dy garu dy hun.’ e Does dim un gorchymyn sy'n bwysicach na'r rhain.”

32“Rwyt ti'n iawn, athro,” meddai'r dyn, “Mae'n wir – un Duw sydd, a does dim un arall yn bod. f 33Ei garu fe â'r holl galon, ac â'r holl feddwl ac â'r holl nerth sydd ynon ni sy'n bwysig, a charu cymydog fel dŷn ni'n caru'n hunain. Mae hyn yn bwysicach na'r aberthau llosg a'r offrymau i gyd.”

34Roedd Iesu'n gweld oddi wrth ei ymateb ei fod wedi deall, a dwedodd wrtho, “Dwyt ti ddim yn bell iawn o deyrnas Dduw.”

O hynny ymlaen doedd neb yn meiddio gofyn mwy o gwestiynau iddo.

Mab pwy ydy'r Meseia?

(Mathew 22:41—23:36; Luc 20:41-47)

35Pan oedd Iesu wrthi'n dysgu yng nghwrt y deml, gofynnodd, “Pam mae'r arbenigwyr yn y Gyfraith yn dweud fod y Meseia yn fab i Dafydd? 36Dafydd ei hun ddwedodd, dan ddylanwad yr Ysbryd Glân:

‘Dwedodd yr Arglwydd wrth fy arglwydd:
“Eistedd yma yn y sedd anrhydedd
12:36 yn y sedd anrhydedd: Groeg, “ar yr ochr dde i mi”

nes i mi osod dy elynion dan dy draed.”’ h

37Mae Dafydd yn ei alw'n ‛Arglwydd‛! Felly, sut mae'n gallu bod yn fab iddo?”

Roedd yno dyrfa fawr wrth eu boddau yn gwrando arno.

38Dyma rai pethau eraill ddysgodd Iesu iddyn nhw, “Gwyliwch yr arbenigwyr yn y Gyfraith. Maen nhw wrth eu bodd yn cerdded o gwmpas yn swancio yn eu gwisgoedd swyddogol, a chael pawb yn eu cyfarch ac yn talu sylw iddyn nhw yn y farchnad. 39Mae'n rhaid iddyn nhw gael y seddi gorau yn y synagogau, ac eistedd ar y bwrdd uchaf mewn gwleddoedd. 40Maen nhw'n dwyn popeth oddi ar wragedd gweddwon ac wedyn yn ceisio rhoi'r argraff eu bod nhw'n dduwiol gyda'u gweddïau hir! Bydd pobl fel nhw yn cael eu cosbi'n llym.”

Rhodd y weddw

(Luc 21:1-4)

41Eisteddodd Iesu gyferbyn â'r blychau casglu lle roedd pobl yn cyfrannu arian i drysorfa'r deml, a gwylio'r y dyrfa yn rhoi eu harian yn y blychau. Roedd llawer o bobl gyfoethog yn rhoi arian mawr. 42Ond yna daeth gwraig weddw dlawd a rhoi dwy geiniog i mewn (oedd yn werth dim byd bron).

43Dyma Iesu'n galw ei ddisgyblion ato a dweud, “Credwch chi fi, mae'r wraig weddw dlawd yna wedi rhoi mwy nag unrhyw un arall. 44Newid mân oedd pawb arall yn ei roi, gan fod ganddyn nhw hen ddigon dros ben. Ond rhoddodd hon y cwbl oedd ganddi i fyw arno.”

Copyright information for CYM